
Rhif y ddeiseb: P-06-1563
Teitl y ddeiseb: Rhoi’r gorau i’r cynllun i wneud Cymru yn “genedl noddfa”
Geiriad y ddeiseb: Y farn gyffredin ar hyn bryd yw bod mewnfudo wedi mynd yn rhemp a bod angen dybryd rhoi sylw i’r mater. Mae pobl Cymru yn haeddu senedd sy'n siarad ac yn gweithredu drostyn nhw ac er eu lles nhw. Dylid rhoi mwy o ffocws ar wella'r wlad i bobl Cymru a rhoi dinasyddion Cymru yn gyntaf. Mae Cymru ymysg y gwledydd uchaf yn y DU o ran tlodi a digartrefedd; dylid mynd i'r afael â'r materion hyn cyn inni estyn gwahoddiad i’r byd.
The text provided above is submitted by the petitioner. The petitions team make every effort to ensure it preserves their authentic voice. This text has not been verified for accuracy, or errors, and may contain unverified opinions or assertions.
Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.
Mae gan y DU gyfrifoldebau cyfreithiol rhyngwladol i ddiogelu ffoaduriaid. Ochr yn ochr â 148 o wledydd eraill, mae'r DU yn rhan o Gonfensiwn Ffoaduriaid 1951, sef cytundeb byd-eang a oruchwylir gan y Cenhedloedd Unedig. Prif egwyddor y Confensiwn Ffoaduriaid yw 'non-refoulement', sef na ddylai ffoaduriaid orfod dychwelyd i wlad lle mae bygythiad difrifol i'w bywydau neu eu rhyddid.
Mae’r DU hefyd yn rhan o gytuniadau eraill sy’n diogelu ffoaduriaid, fel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
O dan y setliad datganoli, mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'r rhwymedigaethau hyn. Yn 2019, dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai 'cenedl noddfa' gyntaf y byd. Mae’r cynllun yn esbonio sut y bydd yn sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol a chafodd ei gymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig.
Mae Confensiwn Ffoaduriaid 1951 yn disgrifio ffoadur fel a ganlyn:
person sydd y tu allan i'w wlad ei genedligrwydd/chenedligrwydd neu breswylfa arferol; mae ganddo/ganddi ofn ar sail dda o erledigaeth oherwydd ei hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol neu farn wleidyddol; ac yn methu neu'n anfodlon manteisio ar amddiffyniad y wlad honno, neu ddychwelyd yno, oherwydd ei bod/fod yn ofni erledigaeth.
Ceisiwr lloches yw:
person sydd wedi croesi ffin ryngwladol i chwilio am amddiffyniad, ond nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch ei gais/chais am statws ffoadur, hyd yn hyn. Mae ceisiwr lloches, felly, yn rhywun sydd wedi cyrraedd gwlad ac wedi gofyn am loches. Hyd nes ceir penderfyniad ynghylch a ydyw’n ffoadur ai peidio, caiff ei alw’n geisiwr lloches.
Yn y DU, nid oes gan geiswyr lloches yr un hawliau â ffoaduriaid neu ddinasyddion Prydeinig. Er enghraifft, ni chaniateir i bobl sy'n ceisio lloches weithio na hawlio budd-daliadau. Mae Llywodraeth y DU yn darparu tai a chefnogaeth ariannol i geiswyr lloches a hefyd yn caniatáu iddynt ddefnyddio gwasanaethau os ydynt yn bodloni’r gofynion cymhwysedd(sef eu bod yn ddigartref neu nid oes ganddynt arian i brynu bwyd). Os caiff cais am loches ei wrthod, gall person fod yn gymwys i gael cymorth tymor byr o dan adran 4(2) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
Darperir llety i geiswyr lloches ond ni chânt ddewis ble yn y DU y byddant yn byw. Bydd ceiswyr lloches sy'n cael cymorth yn cael eu rhoi mewn llety dros dro a reolir gan ddarparwyr ar ran y Swyddfa Gartref.
Mae mewnfudo yn fater a gadwyd yn ôl ac felly ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru yn y broses o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau ar lefel y DU. Yn yr ohebiaeth at y Pwyllgor Deisebau, dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol “[nad] oes gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i weithredu nac i atal polisïau a bennir ar gyfer y DU gyfan ar y mater hwn" ac nad yw’n “penderfynu pwy sy'n cael eu lleoli yng Nghymru”.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am amrywiaeth eang o bolisïau sy’n helpu ymfudwyr i integreiddio gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, tai, addysg, cyflogaeth ac mae’n gyfrifol am reoli effeithiau ymfudo a sicrhau bod cymunedau’n gydlynol. Dywed yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i groesawu cyfran gymesur o bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, sy'n cyfateb i hyd at 5% o'r holl bobl sy'n cyrraedd, ac y bydd yn eu cefnogi i'w helpu i setlo, cael mynediad at wasanaethau ac integreiddio i'w cymunedau, gan sicrhau bod Cymru'n "dal i fod yn genedl ddiogel, groesawgar a chydlynol".
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai cenedl noddfa gyntaf y byd. Roedd hyn mewn ymateb i ymchwiliad yn 2016 gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Mae asesiad effaith a gynhaliodd Llywodraeth Cymru yn crynhoi sut y mae’r polisi: yn ceisio dymchwel rhwystrau i geiswyr lloches ddefnyddio gwasanaethau, gwella cymorth cyflogadwyedd i ffoaduriaid, gwella integreiddio a gwybodaeth am hawliau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a lliniaru amddifadedd, salwch meddwl a digartrefedd.
Diweddarwyd y cynllun fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol(2024) ac mae’n nodi 10 egwyddor yn hytrach na gweithredoedd penodol. Wrth amlinellu blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru yn 2024 i 2025, dywed:
Bydd y ffocws ar atal yr effeithiau mwyaf niweidiol a brofir gan geiswyr noddfa, megis digartrefedd, cyni, camfanteisio, diweithdra, a salwch meddwl.
Ym mis Mawrth 2022, trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb i gynnal refferendwm ynglŷn â Chymru’n dod yn genedl noddfa. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y datblygwyd y Cynllun Cenedl Noddfa drwy "ymgynghoriad agored dros gyfnod o dri mis" a bod y crynodeb o'r ymatebion “yn dangos cefnogaeth sylweddol i'r cynigion yn y fersiwn ddrafft o'r Cynllun".
Wrth gwblhau ei drafododd, nododd y Pwyllgor fod “ymgynghoriad eisoes wedi'i gynnal ar y cynllun Cenedl Noddfa, a bod y cynllun hwnnw wedi ennill cefnogaeth eang. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb” ac:
ailadroddodd y Pwyllgor y cynigion diffuant o gymorth a gafwyd gan bobl Cymru, sy’n sefyll mewn undod â phobl Wcráin, a’r gefnogaeth gref a fynegwyd gan Aelodau o’r Senedd, gan atgyfnerthu’r ffaith bod Cymru’n dymuno croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Dros y misoedd diwethaf, mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Reform UK wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cynllun Cenedl Noddfa ar y sail y dylid blaenoriaethu ariannu gwasanaethau cyhoeddus, sy'n diwallu anghenion dinasyddion Cymru, dros feysydd sydd heb eu datganoli.
Ym mis Ionawr 2025 cyflwynodd Andrew RT Davies, AS y Ceidwadwyr Cymreig, gwestiwn ysgrifenedig ynglŷn â chyfanswm cost y cynllun Cenedl Noddfa hyd yma. Yn ei hymateb ar 20 Ionawr 2025, dywedodd Llywodraeth Cymrumai cyfanswm y gwariant net (gwariant minws incwm o ffynonellau allanol) ers 2019 oedd £62,828,557.83. Mae'n esbonio bod tua £51m o'r gwariant net hwn yn gysylltiedig â’r gwaith ymateb dyngarol Wcráin.
Ers hynny, mae Aelodau o’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno nifer o gwestiynau ysgrifenedig yn gofyn am ragor o wybodaeth am gyfanswm cost y cynllun Cenedl Noddfa a manylion am sut y dyrannwyd gwariant. Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar 6 Tachwedd 2025, dywedodd Llywodraeth Cymru mai £63.87m yw’r ffigur hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025. Esboniodd:
O'r ffigur diweddaredig hwn, cyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar ymateb i sefyllfa Wcráin (ers 2022) yw £58.22m sy'n cynrychioli 91% o gyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru ar Genedl Noddfa. Cyfanswm y gwariant nad oedd yn ymwneud ag Wcráin oedd £5.65m dros y chwe blynedd, sy'n cynrychioli 9% o'r cyfanswm. Mae cyfanswm y £63.87m yn parhau i gynrychioli 0.05% o gyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2019 a 2025.
Yn yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor, dywed fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau y caiff anghenion dinasyddion Cymru yn cael eu diwallu a’i bod yn parhau i fynd i'r afael â thlodi, lleihau digartrefedd, a gwella gwasanaethau cyhoeddus i’r holl drigolion. Mae'n ychwanegu bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i "hyrwyddo cymunedau cynhwysol lle gall pawb gyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas" ac mae'n esbonio:
Mae'r dull hwn o weithredu'n ein galluogi i gydbwyso darparu cefnogaeth i'r rhai sydd angen noddfa â sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu cryfhau a bod anghenion trigolion yn cael eu blaenoriaethu o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.